Bryn was a well-known and highly respected dentist working with the Community Dental Service in North West Wales. He was very well liked both professionally and personally by everyone who had the privilege of knowing him.

He was born in Tywyn, Merionydd in 1957, moving with his family to Bangor, North Wales where he completed his secondary education at Ysgol Dyffryn Ogwen. He studied dentistry at Cardiff University (or the Welsh National School of Medicine and Dentistry at it as it was then known) graduating in 1982.

His early years post-graduation were spent in general dental practice in Bangor from where he joined the Community Dental Service. His particular interests were anaesthetics and epidemiology but he played a full role in the service provision for the area.

For the last 20 years Bryn was a founding and leading member of Y Gymdeithas Ddeintyddol (a Dental Society which is a scientific and social organisation giving Welsh dentists the opportunity to discuss dental and allied matters through the medium of the Welsh language). Given that the majority of scientific and dental education is carried out through the medium of English, it soon became apparent that a dictionary of dental terms translated into Welsh was urgently needed. Bryn took a leading role in this project, displaying his usual meticulous care and conscientiousness in the work. This led to the publication of Y geiriadur deintyddol (the dental dictionary) of about 5,000 words, which won a Welsh healthcare publications award.

Bryn was the chairman of this society at the time of his shockingly untimely death. Under his inspiring guidance, the society was about to launch a website and, in conjunction with the BDA, produce patient information leaflets in Welsh. Both projects have been driven forward largely due to his efforts.

Bryn had been happily married for 27 years to Jan, and was a proud and devoted father to Llyr, Gwion, Branwen and Non.

His family, friends and professional colleagues and patients will greatly miss Bryn's good humour and forbearance but will be glad to have known him, despite his passing at the height of his powers.

In honour of Bryn’s contribution to dentistry in the Welsh language, his obituary has been written with a Welsh translation below.

Roedd Bryn yn ddeintydd adnabyddus ac uchel ei barch yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd Cymunedol yng Ngogledd Orllewin Cymru. Roedd pawb a gafodd y fraint o'i adnabod yn hoff iawn ohono, ar lefel bersonol a phroffesiynol Yn Nhywyn, Meirionnydd, y ganed ef ym 1957, a symud wedyn gyda'i deulu i Fangor yng Ngogledd Cymru, gan gwblhau ei addysg uwchradd yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda. Astudiodd ddeintyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd (sef Ysgol Feddygaeth a Deintyddiaeth Genedlaethol Cymru fel yr adwaenid hi ar y pryd), lle graddiodd ym 1982. Treuliodd ei flynyddoedd cyntaf ar ôl graddio mewn Practis Deintyddol Cyffredinol ym Mangor ac oddi yno ymunodd â'r Gwasanaeth Iechyd Cymunedol. Anaestheteg ac epidemioleg oedd ei brif ddiddordebau ond gwnaeth hefyd gyfraniad sylweddol o ran darparu gwasanaeth yn y gymuned leol.

Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, bu Bryn yn un o sefydlwyr ac yn aelod blaengar o'r Gymdeithas Ddeintyddol (cymdeithas wyddonol a chymdeithasol sy’n rhoi cyfle i ddeintyddion Cymraeg drafod pynciau deintyddol a materion cysylltiol drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg). O gofio bod rhan helaethaf addysg wyddonol a deintyddol yn cael ei chyflwyno drwy gyfrwng y Saesneg, buan iawn y sylweddolwyd bod angen geiriadur o dermau deintyddol yn yr iaith Gymraeg. Chwaraeodd Bryn ran flaenllaw yn y project hwn, gan arddangos ei ofal tra manwl a'i ymroddiad cydwybodol arferol yn y gwaith. Arweiniodd hyn at gyhoeddi'r Geiriadur Deintyddol sy'n cynnwys tua 5000 o eiriau ac a ddaeth yn gyntaf yn un o gystadlaethau Gwobrau'r Gymraeg mewn Gofal Iechyd. Bryn oedd Cadeirydd y Gymdeithas pan fu farw mor greulon o anamserol. Roedd y Gymdeithas dan ei arweiniad ysbrydoledig ef ar fin cyflwyno gwefan ac, mewn cydweithrediad â'r BDA, wrthi'n cynhyrchu taflenni gwybodaeth i gleifion yn yr iaith Gymraeg – a'r ddau broject wedi eu datblygu'n bennaf o ganlyniad i'w ymdrechion ef. Roedd Bryn wedi mwynhau priodas hapus â Jan am dros 27 mlynedd, ac yn dad balch a thriw i Llŷr, Gwion, Branwen a Non.

Bydd teulu, cyfeillion a chydweithwyr proffesiynol a chleifion Bryn yn gweld colled fawr ar ôl ei natur hwyliog a'i oddefgarwch ond yn falch iawn o fod wedi cael ei adnabod, er gwaetha'i golli yn anterth ei weithgarwch.